'Ras rhwng Llafur a Phlaid Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Leanne Wood
Disgrifiad o’r llun,
Leanne Wood: 'Ras dau geffyl'

Yn ôl Leanne Wood fe fydd etholiadau'r cynulliad yn ras dau geffyl, rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

Ond fe wrthododd Ms Wood a dweud a fyddai'n fodlon ffurfio clymblaid gyda Llafur.

Fe wnaeth y ddwy blaid ffurfio clymblaid rhwng 2007 a 2011.

Yn ystod etholiad cyffredinol San Steffan dywedodd Plaid Cymru eu bod yn fodlon cydweithio gyda Llafur er mwyn rhwystro David Cameron rhag dychwelyd i Downing Sreet.

Ond wrth drafod etholiadau mis Mai ar gyfer y cynulliad dywedodd Ms Wood: "I'r rhan fwyaf o bobl mae'n ras rhwng Llafur a Phlaid Cymru.

"Mae angen i bobl ofyn pwy fydd prif weinidog nesa Cymru, ac mae yna ddewis rhwng y prif weinidog presennol a finnau- mae mor syml â hynny. "

Dywedodd ar raglen Sunday Politics BBC Cymru nad oedd y Torïaid yn berthnasol yn y cynulliad.

Argraff

Llafur yw'r blaid fwyaf yn y Cynulliad, gyda'r Torïaid yn ail a Phlaid Cymru yn drydydd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr mai dim ond Leanne Wood oedd yn credu bod yr etholaid yn ras rhwng Plaid Cymru a Llafur.

"Mewn realiti mae rhan fwyaf o bobl yn gwybod fod pleidlais i Blaid Cymru yn bleidlais i Lafur."

Ychwanegodd er gwaetha sylw ar y teledu yn sgil dadl yr arweinyddion roedd Plaid Cymru wedi methu a gwneud unrhyw argraff y tu allan i'w chadarnleoedd.

Yn yr etholiad cyffredinol fe fethodd Plaid Cymru a chynyddu nifer eu haelodau seneddol.

Cafodd yr ymgyrch ei feirniadu gan y cyn arweinydd Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

Fe wnaeth ei sylwadau gynddeiriogi rhai o aelodau'r blaid, ac mae Ms Wood wedi cadarnhau fod Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol y blaid yn siarad gydag etholaeth leol yr AC cyn penderfynu a ddylid cymryd camau yn ei erbyn.

Gwrthododd Ms Wood a dweud a allai hynny olygu na fyddai'n cael sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiad yn 2016.