Angladd Trudy Jones wedi ymosodiad Tunisia
- Cyhoeddwyd

Mae angladd Trudy Jones, un o'r 38 o bobl gafodd eu lladd mewn ymosodiad terfysgol ar draeth yn Tunisia, wedi cael ei gynnal ddydd Llun.
Cafodd y fam i bedwar ei lladd gan Seifeddine Rezgui yn Sousse ar 26 Mehefin.
Cafodd angladd Ms Jones, 51 oed o'r Coed Duon, Caerffili, ei gynnal yn Eglwys Dewi Sant, y Coed Duon.
Roedd yr eglwys yn orlawn a nifer yn aros yn y glaw y tu allan wrth i'w harch gael ei gario i mewn.
Roedd un deyrnged yn dweud: "Rydyn ni'n dy fethu gymaint. Buaswn i'n rhoi unrhyw beth yn y byd i dy gael hefo ni rŵan. 'Dwi ddim yn gwybod beth fyddwn ni'n ei wneud hebdda ti."
Dywedodd un arall: "I fy mam, fy ffrind gorau, fy mhopeth. Rwy'n dy garu mwy na alla'i roi mewn geiriau."
Clywodd cwest i'w marwolaeth mai un fwled a'i lladdodd.
Mewn datganiad dywedodd ei theulu: "O bawb doedd ein mam ddim yn haeddu hyn, roedd hi'n berson mor gariadus oedd yn rhoi pobl eraill yn gyntaf."