Anghenion arbennig: Naw cwyn am Gyngor Ceredigion
- Cyhoeddwyd

Mae cyngor Ceredigion wedi cael ei feirniadu gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru oherwydd y ffordd maen nhw'n delio â phlant sydd ag anghenion addysgol arbennig.
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae'r Ombwdsmon, Nick Bennett, wedi derbyn naw cwyn am yr awdurdod - dros chwarter y cwynion gafodd eu gwneud drwy Gymru.
Mae'r cwynion yn cynnwys torri côd ymddygiad, mynd yn groes i bolisi cwynion y Cyngor a mynd yn groes i ganllawiau'r Ombwdsmon.
Dywed y Cyngor eu bod yn gweithio gyda'r Ombwdsmon er mwyn cyflwyno newidiadau.
Mae Mr Bennett wedi gorchymyn fod yr awdurdod yn ail hyfforddi staff ac yn ymddiheuro i rieni wnaeth dderbyn ffurflen nad oedd yn cyd-fynd â chanllawiau swyddogol.
'Cwbl annerbyniol'
Yn ei arolygiad diwethaf gan Estyn, Ceredigion oedd un o ddau awdurdod lleol i gael gradd "ardderchog" am gefnogi disgyblion gydag anghenion arbennig.
Fe wnaeth tîm Mr Bennett ddweud bod ymchwiliad i un achos wedi dangos fod yr awdurdod addysg wedi ymateb mewn modd cwbl annerbyniol i gais am wybodaeth.
Roedd yr awdurdod wedi paratoi strategaeth ar gyfer anghenion addysgol arbennig ond dywedodd Mr Bennett nad oedd y strategaeth yn cwrdd â gofynion cyfreithiol.
Dywedodd: "Fe wnaethom wneud argymhellion penodol o ran pob cwyn rydym wedi derbyn ac mae angen sicrhau fod yr argymhellion hyn yn cael eu dilyn yn drwyadl."
Dywed y cyngor fod nifer o'r cwynion o natur hanesyddol ond yn derbyn y dylid fod wedi gweithredu yn gynt.
Dywedodd llefarydd ar ran yr awdurdod: "Mae gwersi wedi cael eu dysgu ac rydyn ni'n gweithio'n galed i sicrhau bod argymhellion yr Ombwdsmon yn cael eu cyflwyno yn llawn."
Mae meibion Tim a Sue Pink yn cael eu haddysgu mewn uned arbennig yn Hampshire.
Ceredigion sy'n talu am y ddarpariaeth, oherwydd diffyg llefydd priodol yn y sir.
Fe wnaeth yr Ombwdsmon benderfynu fod yr awdurdod addysg wedi methu delio gydag anghenion y plant a bod yna oedi cyn gweithredu penderfyniadau.
"Mae wedi bod yn berthynas anodd," meddai Mr Pink.
"Roedd y broses gyfathrebu yn wael. Mae ganddyn nhw [y meibion] hawliau, ond mae'n rhaid i chi ymladd am y rhain. Dyna pam ein bod wedi mynd i dribiwnlys."
Dywedodd y cyngor ei fod yn falch nad oedd adroddiad yr Ombwdsman wedi codi pryderon ynglŷn â'r ddarpariaeth addysg sy'n cael ei roi i feibion Mr Pink.