Cludo bachgen 11 oed i'r ysbyty
- Cyhoeddwyd

Cafodd y bachgen ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Cafodd bachgen 11 oed ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans awyr ar ôl syrthio oddi ar lwyfan pren ar draeth Abersoch, Gwynedd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 09:30 ddydd Sul.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Ambiwlans fod y bachgen wedi dioddef anafiadau difrifol, ond doedd ei fywyd ddim mewn peryg.
Aed â'r bachgen i Ysbyty Gwynedd ym Mangor