Arestio dyn wedi tân mewn hen gapel

  • Cyhoeddwyd
CapelFfynhonnell y llun, Phillip Bunce/Facebook

Dywed Heddlu De Cymru fod dyn 27 oed o Ferthyr Tudful wedi ei arestio mewn cysylltiad â thân mewn capel yn Aberfan dros y penwythnos.

Cafodd Capel Aberfan, sy'n dyddio nôl i 1876, ei ddinistrio yn llwyr gan y tân ddechreuodd tua 02:00 ddydd Sadwrn.

Cafodd rhai o'r bobl oedd yn byw wrth ymyl y capel eu symud o'u cartrefi yn ystod y digwyddiad rhag ofn i'r tân ledu.

Fe fydd swyddogion y cyngor nawr yn penderfynu a ddylid dymchwel yr adeilad.

Mae'r capel wedi bod ar gau ers 2012, ond roedd gwasanaethau yn parhau i gael eu cynnal o bryd i'w gilydd.

Roedd yna hefyd gynllun i geisio adfer y capel a'i ddefnyddio fel adnodd i'r gymuned.

Yn 1966 cafodd yr adeilad ei ddefnyddio fel lle ar gyfer cadw cyrff y bobl a fu farw yn dilyn trychineb Aberfan.

Ffynhonnell y llun, Phillip Bunce/Facebook