Teyrnged wedi marwolaeth ar feic modur

  • Cyhoeddwyd
Richard WilliamsFfynhonnell y llun, Teulu
Disgrifiad o’r llun,
Richard Williams, 24 oed o Bont-y-pŵl

Mae teulu dyn fu farw ar ôl i'w feic modur fod mewn gwrthdrawiad a pholyn lamp yng Nghaerdydd wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Richard Williams, 24 oed o Bont-y-pŵl ar Ffordd Rover yn y ddinas ar 8 Gorffennaf.

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu ei fod yn "fab, ŵyr a nai cariadus", gan ychwanegu fod "ei holl deulu yn ei garu ac fe fydd colled enfawr ar ei ôl".

Roedd Mr Williams yn cael ei adnabod gan ei ffrindiau a'i deulu fel Dickie, ac fe gafodd radd mewn peirianneg o Brifysgol Casnewydd cyn ymuno â chwmni Fitzgerald's Engineering yng Nghwmbrân.

Dywedodd datganiad y teulu: "Roedd Richard yn fab, ŵyr a nai cariadus i'w fam, ei dad, John a phawb yn ei deulu. Fe fydd yn cael ei gofio am byth."