Arweinydd UKIP Cymru: Galw am fwy o Saesneg mewn mosgiau

  • Cyhoeddwyd
Men praying in a London mosque

Mae arweinydd plaid UKIP yng Nghymru wedi dweud y dylai arweinwyr Moslemaidd areithio yn Saesneg mewn mosgiau er mwyn i'w cymunedau asio'n well gyda'r gymuned Brydeinig.

Dywedodd Nathan Gill ar raglen Jason Mohammad ar BBC Radio Wales y byddai hyn yn gwneud i bobl deimlo fod eu gwreiddiau Prydeinig yr un mor bwysig iddyn nhw.

Ond dywedodd Saleem Kidwai o Gyngor Moslemiaid Cymru fod 99% o'r areithiau mewn mosgiau yn Saesneg a bod cyfleusterau cyfieithu ar y pryd yn cael eu darparu i'r gweddill.

Dywedodd Mr Gill y dylai Imamiau sy'n pregethu mewn mosgiau helpu Moslemiaid "i deimlo bod eu gwreiddiau Prydeinig yr un mor bwysig i'w crefydd a derbyn cyfarwyddiadau mewn iaith arall nad yw pawb ohonyn nhw yn ei deall yn llawn.

Herio

"Byddai hyn hefyd yn golygu y gallai teuluoedd a phobl wybod beth yn union sy'n cael ei ddweud wrth bobl am eu ffydd er mwyn iddyn nhw allu herio hynny," meddai.

"Fe fyddwn i'n synnu'n fawr petai 'na gynulleidfa gyfan sydd ddim yn siarad gair o Saesneg ac fe ddylen nhw fod yn dysgu Saesneg neu Gymraeg os ydyn nhw'n byw yma yng Nghymru."

Fe wfftiodd Mr Kidwai yr awgrym nad oedd mosgiau Cymreig yn helpu wrth geisio hybu'r broses o asio diwyllianol, gan ddweud mai nifer fach iawn o Foslemiaid yng Nghymru oedd ddim yn deall Saesneg.

"Am resymau crefyddol mae ein gweddïau'n cael eu hadrodd yn Arabeg, ond mae 99% o'r pregethau'n cael eu hadrodd yn Saesneg. Mewn rhai achosion pan fo pregeth mewn Bengali neu Urdu mae cyfieithu ar y pryd yn digwydd.

"Mae pobl yn gwneud ymdrech i asio drwy ddysgu Saesneg - efallai nad ydyn nhw'n rhugl iawn ond maen nhw'n gallu cyflawni pethau."

Disgrifiad o’r llun,
Nathan Gill, arweinydd UKIP yng Nghymru