Achos pont: Tri llanc yn ddieuog
- Cyhoeddwyd

Mae rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd wedi cael tri llanc yn eu harddegau yn ddieuog o ail gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol yn achos dyn 18 oed, ddisgynnodd oddi ar bont ym Mhontypridd flwyddyn yn ôl.
Roedd Kurtis Lawrence, 18 oed, a dau fachgen 16 ac 15 oed nad oes modd eu henwi am resymau cyfreithiol, wedi gwadu anelu cerrig oedd wedi eu taflu i gyfeiriad Joshua Davies.
Cafodd Joshua Davies ei barlysu wedi iddo ddisgyn ar greigiau o'r bont. Yn gynharach cafwyd y tri llanc yn ddieuog o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.