Creu darlun digidol o gastell hynafol Holt
- Cyhoeddwyd
Cafodd y castell ei ail-greu gan ddefnyddio cofnodion hanesyddol
Does dim ond adfail ar ôl o Gastell Holt erbyn hyn, ond mae cyfle i weld sut y byddai'r adeilad hynafol wedi edrych ganrifoedd yn ôl, yn dilyn cynllun elusen.
Roedd Castell Holt yn Sir Wrecsam yn un o ffefrynnau'r Brenin Richard II ar ôl cael ei adeiladu yn y 13eg ganrif.
Roedd yn ddyluniad chwyldroadol pan gafodd ei adeiladu, ac yn safle pwysig tan ei ddymchwel yn yr 17eg ganrif.
Gydag arian gan elusen y Castle Studies Trust, mae arbenigwyr wedi ail-greu'r castell yn ddigidol, i roi blas ar sut y byddai'r adeilad wedi edrych.
Cafodd y dyluniad ei greu gyda chymorth cynlluniau hanesyddol, yn ogystal â chanfyddiadau gwaith cloddio diweddar.
Y canlyniad yw fideo digidol yn dangos y castell mewn manylder o'r tu allan a'r tu mewn.
Dywedodd arweinydd y cynllun, Rick Turner: "Mae wedi bod yn llawer o hwyl ceisio datrys diflaniad y castell enwog yma.
"Roedd rhaid i bob darn gwahanol o dystiolaeth gael ei asesu. Y pwysicaf yw'r hyn sy'n dal i fod ar y safle ei hun, yr adfeilion a'r hyn gafodd ei ddarganfod drwy gloddio yn ddiweddar."
Ychwanegodd: "Mae creu rhywbeth gweledol o'r hyn mae'r ffynonellau yn ei ddisgrifio wedi bod yn her. Rydyn ni'n gobeithio ein bod wedi gwneud cyfiawnder a'r castell trawiadol a chymhleth yma."