Tannau tywysogaidd
- Cyhoeddwyd

Mae gan y Tywysog Charles delynores newydd. Anne Denholm o Gaerfyrddin yw'r pumed person i gydio yn y tannau brenhinol ers 2000. Bu'n sôn mwy am yr anrhydedd wrth Cymru Fyw:
Gwersi cerddoriaeth
'Dwi wedi bod yn ymwybodol o'r swydd yma ers i mi ddechrau chwarae'r delyn yn gyntaf, ac felly mae cael y cyfle nawr i gyflawni'r rôl yn fendigedig.
Fe wnes i ddechrau chwarae'r delyn yn wyth oed fel ran o gynllun gwersi offerynnol oedd yn bodoli yn fy ysgol - Ysgol Gynradd y Dderwen yng Nghaerfyrddin.
Fedra i ddim honni fy mod wedi ystyried fy newis o offeryn yn ddwys! A'r cynta oedd Mam a Dad yn gwybod am y peth oedd pan wnaethon nhw dderbyn llythyr i gadarnhau dechrau fy ngwersi!
Roeddwn i eisioes yn chwarae'r ffidil a'r piano ond hoffais y delyn o'r dechrau, ac fe wnes i ddewis canolbwyntio arni go iawn pan o'n i tua 13 oed.
Dylanwad yr eisteddfodau
Mae eisteddfodau a gwyliau celfyddydol Cymru wedi bod yn bwysig i fy ngyrfa. Maen nhw yn gwbl unigryw.
Dim ond ar ôl i mi symud tu allan i Gymru nes i sylweddoli hyn o ddifrif.
Mae'r eisteddfodau yn dangos i blant bwysigrwydd y celfyddydau, ffrwyth gwaith caled a'r cyfoeth celfyddydol sydd ganddon ni fel Cymry.
Maen nhw hefyd yn gyfle gwych i ymarfer perfformio, dysgu repertoire newydd a chael adborth adeiladol.
Roedd fy mhrofiadau mewn eisteddfodau a gwyliau yn bendant yn rhan anhepgor o'n natblygiad cerddorol.
'Arbrofi'
Rydw i wedi bod yn lwcus tu hwnt i gael clywed a gweithio gyda nifer fawr o delynorion yn ystod fy astudiaethau.
Rydw i wedi bod yn astudio gyda fy athrawes bresennol, Karen Vaughan, ers chwe blynedd, ac wrth gwrs mae hi wedi dylanwadu'n fawr arna i.
Mae Catrin Finch, sef y gyntaf i gael ei phenodi fel telynores frenhinol ers i'r swydd gael ei hailsefydlu, wedi bod yn arwres i mi ers amser hir ac rydw i'n edmygydd mawr o'i phrosiectau arloesol!
Un o'r pethau dwi'n mwynhau fwyaf wrth ganu'r delyn yw arbrofi gyda steiliau a thechnegau newydd.
Rydw i'n aelod o bedwarawd sy'n chwarae cerddoriaeth glasurol arbrofol a chyfoes, The Hermes Experiment, a dwi'n cael lot o hwyl yn y maes yma!
Ond, wrth gwrs, dwi'n mwynhau chwarae cerddoriaeth glasurol a Chymreig traddodiadol hefyd! Dwi'n gobeithio cyfuno'r diddordebau yma rhywffordd trwy weithio gyda cherddoriaeth gyfoes Gymreig.
Y delyn yn y byd modern
Does dim amheuaeth fod proffeil yr offeryn wedi datblygu'n enfawr dros y degawdau diwethaf.
Mae'n cael ei ddefnyddio dros amryw o feysydd cerddorol, o'r clasurol i gerddoriaeth boblogaidd, ac mae nifer o artistiaid a thelynorion yn cyflwyno prosiectau sy'n defnyddio'r offeryn mewn ffyrdd newydd.
Wedi dweud hynny, mae yna ffordd i fynd yn y frwydr yn erbyn y syniadau a'r stereoteipiau sydd wedi bod yn rwystr i'r offeryn ers amser.
Mae'n offeryn cenedlaethol sy'n anhygoel o bwerus a dyma gyfle gwych i mi allu gweithio i'w hyrwyddo!
Yr her o ran perfformio, ble bynnag fyddwch chi a phwy bynnag fydd yn gwrando, ydy rhoi o'ch gorau, cyfathrebu'n llwyddiannus, a bydd gwaith caled yn talu ar ei ganfed.