Cyhoeddi enw dyn gafodd ei ddarganfod mewn chwarel
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd gorff James Ivor Jones ei ddarganfod ger troed chwarel Llanddulas ddydd Iau
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw dyn a gafodd ei ddarganfod yn farw mewn chwarel yng Nghonwy ddydd Iau.
Roedd James Ivor Jones, 50 oed o Landudno, yn gweithio fel capten cwch oedd yn cludo gweithiwyr i ffermydd gwynt oddi ar arfordir gogledd Cymru.
Yn agor cwest i'w farwolaeth yn Rhuthun, dywedodd y Crwner John Gittins bod gyrrwr oedd yn teithio ar yr A547 wedi gweld y dyn ger y chwarel yn Llanddulas.
Fe gafodd gorff Mr Jones ei ddarganfod ger troed y chwarel, gyda'i gar gerllaw.
Dywedodd yr heddlu nad oedd amgylchiadau amheus i'r farwolaeth.
Y casgliad rhagarweiniol gafodd ei roi gan y patholegydd Dr Mark Atkinson oedd mai nifer o anafiadau oedd achos y farwolaeth.
Fe gafodd y cwest ei ohirio am y tro.