Cyhuddo gyrrwr o achosi marwolaeth plentyn 12 oed

  • Cyhoeddwyd
Hamid Khan
Disgrifiad o’r llun,
Fe gafodd blodau eu gadael er cof am Hamid ar Ffordd Parc Ninian ar ôl ei farwolaeth

Mae dyn wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus yn dilyn marwolaeth bachgen 12 oed yng Nghaerdydd.

Mae Calvin Michael Markall, 26 oed o'r brifddinas, hefyd wedi cael ei gyhuddo o fethu â stopio yn dilyn gwrthdrawiad a gyrru heb yswiriant.

Bu farw Hamid Ali Khan, 12 oed o ardal Glan-yr-Afon, wedi'r gwrthdrawiad ar Ffordd Parc Ninian ar ddydd Gwener, 27 Chwefror.

Mae disgwyl Mr Markall ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ar 21 Gorffennaf.