Cynghrair y Pencampwyr: Y Seintiau Newydd v Videoton
- Cyhoeddwyd

Mae rheolwr Y Seintiau Newydd, Craig Harrison, yn gobeithio manteisio ar ddiffyg gwaith paratoi eu gwrthwynebwyr yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr nos Fawrth (19:00).
Er i Videoton ennill cynghrair Hwngari tymor diwethaf - gan arwain fwy neu lai o'r diwrnod cyntaf i'r olaf - collodd y rheolwr ei swydd.
Y Ffrancwr Bernard Cason sydd wedi cymryd yr awenau oddi ar y Sbaenwr Joan Carillo, a dyma fydd ei ail gêm gystadleuol yn unig wrth y llyw.
"Mi wn i fod 'na dipyn o fynd a dod wedi digwydd - mae 'na reolwr newydd ac ambell i chwaraewr newydd hefyd," meddai Harrison.
"Mi nawn ni'n gorau i geisio manteisio ar hynny."
Colli o 3-0 gwnaeth Videoton yr wythnos ddiwethaf yng ngêm gyntaf Cason, sydd hefyd wedi rheoli Olympique Marseille, AS Cannes ac Auxerre ymysg eraill.
Fe ddaeth cynrychiolydd o'r clwb i Groesoswallt nos Fawrth ddiwethaf i weld y Seintiau'n curo B36 Tórshavn o Ynysoedd Ffaro 4-1, a 6-2 dros y ddau gymal, er mwyn camu ymlaen i'r ail rownd ragbrofol.
Dyna oedd y tro cyntaf ers 2010 i'r Seintiau ennill dros ddau gymal yn y gystadleuaeth, a'r tro cyntaf erioed iddyn nhw ennill y gêm gartref a'r gêm oddi cartref.
"Mae'n rhaid bod ni wedi gwneud argraff arno fo oherwydd mi oedda ni'n wych," dywedodd Harrison.
"O'r cefn i'r llinell flaen, mi wnaethom ni bopeth yn iawn. Roedd y chwaraewyr yn arbennig.
"Ennill wythnos diwethaf oedd moment gorau fy ngyrfa - ac mae hynny'n cynnwys fy ngêm gyntaf fel chwaraewr yn Uwch Gynghrair Lloegr gyda Middlesbrough a churo Lerpwl."
Ond er gwaetha'r newidiadau yn rhengoedd yr ymwelwyr, mae Harrison yn gwybod bydd yr her i'w dîm yn un sylweddol ar Neuadd y Parc nos Fawrth.
Mae mwyafrif helaeth carfan Videoton yn chwaraewyr rhyngwladol. Y mwyaf profiadol o'r rheini yw'r amddiffynnwr Roland Juhász, sydd wedi ennill 87 cap i Hwngari.
"Yn amlwg mae chwarae yn erbyn Videoton yn mynd i fod yn gwbl wahanol - mae pêl-droed Hwngari gymaint cryfach na phêl-droed Ynysoedd Ffaro," meddai Harrison.
"Felly mae'n mynd i fod yn anodd iawn. Ond dwi yn credu bod ni'n well rŵan na 'da ni wedi bod yn y gorffennol wrth chwarae timau da yn Ewrop, fel Legia Warsaw (yn 2013).
"Dwi ddim eisiau siarad yn rhy gynnar, ond dydw i ddim yn meddwl bod Videoton gystal â be' oedd Legia Warsaw."
Mi fydd yr ail gymal yn cael ei chwarae yn Székesfehérvár, un o brif ddinasoedd Hwngari, wythnos i nos Fercher.