HPV: Llywodraeth Cymru yn gwrthod brechu bechgyn
- Cyhoeddwyd

Mae elusennau a gwyddonwyr blaenllaw wedi methu â pherswadio llywodraeth Cymru i gynnig brechiad HPV (human papilloma virus) i fechgyn yn ogystal â merched yng Nghymru.
Ar hyn o bryd, mae merched rhwng 12-13 oed yn cael y brechiad er mwyn eu gwarchod rhag ganser ceg y groth.
Fe ddywed consortiwm, sy'n cael ei arwain gan Tenovus Cymru, bod dynion bellach â risg o ddatblygu canser y pen a'r gwddf - a rhai mathau eraill o ganser - sydd hefyd yn cael eu hachosi gan y firws.
Ond mae'r gweinidog iechyd, yr Athro Mark Drakeford wedi ysgrifennu at y consortiwm i ddweud na fydd unrhyw newid i'r polisi presennol.
Tanseilio
Dywedodd bod y Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio wedi cydnabod yr angen i adolygu'r cynllun o ganlyniad i'r pwyntiau sydd wedi cael eu codi gan y consortiwm, a bod ystyriaeth yn cael ei roi er mwyn ei ehangu.
"Mae'r cydbwyllgor yn ymwybodol o'r angen i orffen yr adolygiad mor fuan â phosib, ond fe ddywedwyd bod posib tanseilio'r canlyniadau drwy gyflymu'r broses," meddai'r Athro Drakeford.
Ategodd: "Mi fyddai'n disgwyl argymhellion y cydbwyllgor ac yn ystyried goblygiadau ar Gymru unrhyw newidiadau sy'n cael eu cynnig i'r cynllun brechu HPV."
Yn ôl Gofal Canser Tenovus, mai'n debygol na fydd unrhyw argymhellion yn cyrraedd llywodraeth Cymru am ddwy flynedd arall.
"Fel grŵp o fudiadau sy'n ceisio gwarchod a gwella iechyd cyhoeddus, rydym ni'n parhau i argymell yn gryf bod ymestyn y cynllun brechu i gynnwys bechgyn yn flaenoriaeth," dywedodd Jon Antoniazzi o Ofal Canser Tenovus.