Amddiffyn plant: Gwendidau Heddlu De Cymru

  • Cyhoeddwyd
Merch

Mae angen i Heddlu De Cymru wneud mwy i fod ymwybodol o achosion o blant yn cael eu hecsbloetio yn rhywiol, yn ôl adroddiad.

Mae'r Arolygiaeth Cwnstabliaeth wedi bod yn ystyried sut mae'r heddlu yn mynd ati i amddiffyn plant.

Maen nhw'n dweud eu bod yn poeni nad yw plismyn yn ystyried y gallai plant fod yn cael eu hecsbloetio.

Er enghraifft, os yw plentyn yn rhedeg i ffwrdd yn rheolaidd, fe allai hynny fod yn arwydd bod rhywun yn ceisio cymryd mantais ohonyn nhw'n rhywiol.

Pryder

Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at achos merch 15 oed, oedd wedi'i hecsbloetio gan griw o ddynion dros gyfnod o bedair blynedd.

Er bod 40 o ffurflenni amddiffyn plant wedi'u llenwi, doedd dim ymchwiliad i geisio adnabod y dynion, nac ymdrech i geisio amddiffyn plant eraill.

Mae'r heddlu bellach yn dweud bod dyn wedi'i arestio mewn cysylltiad â'r achos hwn a bod ymchwiliad yn mynd yn ei flaen.

Mae 'na bryder hefyd bod gormod o blant yn cael eu cadw yn y ddalfa dros nos, yn hytrach nag yng ngofal awdurdodau lleol.

Gwelliannau

Mae Heddlu'r De yn dweud eu bod wedi llunio rhaglen i fynd i'r afael a nifer o'r pethau sy'n cael sylw yn yr adroddiad, gyda nifer o welliannau eisoes wedi'u cyflwyno, a bod yr heddlu wedi'i ymrwymo'n llwyr i amddiffyn plant.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol, Nikki Holland: "Mae'r adroddiad heddiw yn tynnu sylw at dipyn o'r gwaith da rydym ni wedi bod yn ei wneud yn y maes hwn.

"Mae'r arolygwyr yn ei gwneud hi'n glir bod swyddogion sy'n gyfrifol am ymchwiliadau i achosion o gam-drin plant wedi'u hymrwymo i'w gwaith, ac wedi'i hymroi i helpu plant bregus."