70% yn fwy o blant yn marw mewn ardaloedd tlawd
- Cyhoeddwyd

Mae adolygiad yn awgrymu bod marwolaethau plant mewn ardaloedd difreintiedig 70% yn uwch na'r rheiny mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.
Mae'r astudiaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn dweud fod y rhan fwyaf o farwolaethau plant (64%) yn digwydd cyn iddyn nhw gyrraedd un oed.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod yr adroddiad yn dangos "pwysigrwydd pontio'r gagendor sydd rhwng y cyfoethog a'r tlawd."
Yn rhagair yr adroddiad, mae Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland yn dweud mai "un canlyniad pwysig gostwng cyfradd tlodi yng Nghymru, fyddai, lleihad yn nifer y marwolaethau ymysg plant".
Marwolaethau ar y ffyrdd
Mae'r gwaith hefyd yn nod y gallai cyfyngiadau ar yrwyr ifanc leihau nifer y marwolaethau ar y ffyrdd.
Daw sylwadau Dr Rosalind Reilly wedi i ICC ddweud bod 40% o farwolaethau plant yn gysylltiedig â damweiniau ar y ffyrdd.
Mae'r gwasanaeth yn cyhoeddi ei Adolygiad o Farwolaethau Plant ar gyfer 2015 ddydd Mawrth.
'Lleihau'r risg'
Dywedodd Dr Reilly, ymgynghorydd iechyd cyhoeddus gyda'r gwasanaeth: "Mae marwolaeth plentyn yn drychineb, gydag effaith anferth ar rieni a gofalwyr, teuluoedd, ffrindiau a chymunedau.
"Rydyn ni'n gobeithio y gallwn ni annog pobl i feddwl a gweithredu ar yr hyn allai gael ei wneud i leihau'r risg o blentyn yn marw.
"Fe allai gweithred fel cyflwyno cyfyngiadau ar yrwyr ifanc helpu i leihau'r nifer o farwolaethau ar y ffyrdd."
Gwersi gyrru gorfodol
Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru ym mis Mai ei fod wedi clustnodi £2m ar gyfer addysg diogelwch ar y ffyrdd a rhaglenni hyfforddiant ar gyfer grwpiau bregus ac o risg uchel, fel plant, pobl ifanc, gyrwyr hŷn a beicwyr modur.
Mae grwpiau diogelwch ar y ffyrdd, yn cynnwys Brake a'r RAC, wedi dweud y gallai cyflwyno trwyddedau graddedig i yrwyr gyfyngu ar y nifer o farwolaethau ymysg pobl ifanc.
Ym mis Mawrth, fe wnaeth Adran Trafnidiaeth llywodraeth y DU gyhoeddi ei ymchwil ei hun o arolwg o yrwyr ifanc, eu rhieni a chyflogwyr oedd yn dangos mwy o gefnogaeth i wersi gyrru gorfodol na thrwyddedau graddedig.