'Miliwn o siaradwyr Cymraeg': Lansio dogfen Cymdeithas
- Cyhoeddwyd

Bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio dogfen ddydd Mawrth sy'n amlinellu gweledigaeth y mudiad ar gyfer y Gymraeg o dan lywodraeth nesaf Cymru, sy'n cynnwys y nod o gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg i filiwn.
Fe fydd y ddogfen yn cynnig syniadau polisi er mwyn cyrraedd tair nod y bydd y mudiad yn galw ar holl bleidiau'r Cynulliad i anelu atynt.
Fe gyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith eu targed, o gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg i filiwn ym mis Mawrth, a bydd y ddogfen yn ehangu ar hyn.
Rhai o obeithion eraill y mudiad yw atal yr allfudiad, cynnal cymunedau a sicrhau llwybrau i ddod â Chymry Cymraeg yn ôl i'r wlad a defnyddio'r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd.
Bydd dogfen y mudiad - Miliwn o Siaradwyr Cymraeg: Gweledigaeth 2016 ymlaen - yn cael ei lansio yn y Senedd gyda chyfranwyr fel Jamie Bevan, Ffred Ffransis a, Keith Davies AC, Cadeirydd Pwyllgor Trawsbleidiol y Gymraeg.