Galw am filiwn o siaradwyr Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
DogfenFfynhonnell y llun, Cymdeithas yr Iaith

Dylai Llywodraeth nesaf Cymru gynllunio i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Daeth yr alwad wrth i'r gymdeithas lansio eu cynigion polisi ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn 2016 yn y Senedd ddydd Mawrth.

Dywed y gymdeithas fod syniadau yn y ddogfen sy'n anelu at gyrraedd tri nod cyfartal - creu miliwn o siaradwyr, atal yr allfudiad, a defnyddio'r Gymraeg ym mhob maes bywyd.

Mae'r ddogfen yn cynnwys argymhellion sydd yn cynnwys cyflwyno 'Bil Addysg Gymraeg i Bawb' er mwyn sefydlu un continwwm dysgu'r Gymraeg, a pheth addysg cyfrwng Cymraeg i bawb.

Mae awgrymiadau eraill yn cynnwys gosod dyddiadau targed statudol ar gyfer cyflwyno addysg gynradd Gymraeg yn unig yn gynyddol ar draws Cymru, agor rhagor o neuaddau Cymraeg i fyfyrwyr, sefydlu canolfannau i hwyrddyfodiad a throchi ym mhob sir, estyn maes cyfrifoldeb y Coleg Cymraeg i addysg bellach, ac addysg ôl-16 yn fwy cyffredinol.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas yr iaith
Disgrifiad o’r llun,
Lansio'r ddogfen yn y Senedd ddydd Mawrth

Bil Cynllunio'r Gweithlu

Mae'r ddogfen bolisi hefyd yn cynnig y dylid cyflwyno Bil Cynllunio'r Gweithlu fyddai'n sefydlu targedau a chyfrifoldebau er mwyn sicrhau cyflenwad cynyddol o weithwyr Cymraeg, yn ôl y gymdeithas.

Wrth siarad am y ddogfen, o'r enw 'Miliwn o Siaradwyr Cymraeg: Gweledigaeth 2016 ymlaen', cyn ei lansio yn y Senedd yng Nghaerdydd, dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Credwn fod yr etholiad nesaf yn un tyngedfennol i'r iaith. Mae angen uchelgais arnon ni fel cenedl er mwyn sicrhau ffyniant y Gymraeg dros y degawdau i ddod: mae angen i ni fel pobl a'n gwleidyddion codi eu gorwelion.

"Nid oes amheuaeth bod canlyniadau Cyfrifiad 2011 yn amlygu'r argyfwng sy'n wynebu'r Gymraeg. Ond does dim angen, na diben, anobeithio, ond, yn hytrach, mae angen gweithredu'n fwriadus ar bolisïau a chynlluniau clir.

"Os ydy ein gwleidyddion o ddifrif am gyrraedd amcanion uchelgeisiol, mae angen penderfyniadau dewr ar ddeddfwriaeth, adnoddau, defnyddio cefnogaeth y cyhoedd a chynllunio'r ffordd ymlaen.

"Mae'r cynigion yr amlinellir yn ein dogfen weledigaeth yn becyn o bolisïau wedi eu seilio ar drafodaethau manwl oddi fewn yn ogystal ag arbenigwyr yn y maes polisi iaith.

"Wrth reswm, nid ydym yn honni bod gennym fonopoli ar yr holl bolisïau sy'n mynd i sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu dros y blynyddoedd i ddod, ond gobeithiwn yn fawr fod bodolaeth y ddogfen a'r cynigion yn dangos pwysigrwydd etholiad 2016 fel un o bwys hanesyddol i'r Gymraeg a chymunedau Cymru'n gyffredinol."

Disgrifiad o’r llun,
Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg