Cymorth i bobl sydd mewn perygl o ladd eu hunain
- Cyhoeddwyd

Fe fydd pobl sydd mewn perygl o ladd eu hunain a phobl sy'n hunan-niweidio yn cael cynnig o fwy o gymorth fel rhan o gynllun newydd pum mlynedd i leihau achosion yng Nghymru.
Mae ymgyrch 'Beth am Siarad â Fi 2', sy'n cael ei lansio ddydd Iau gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Mark Drakeford, yn adeiladu ar y cynllun cyntaf gafodd ei lansio chwe blynedd yn ôl.
Pwrpas yr ymgyrch yw cydnabod y grwpiau hynny o bobl sydd mewn perygl arbennig o ladd eu hunain a hunan-niweidio, ac amlinellu'r gofal y dylent ei gael.
Dywedodd yr Athro Drakeford bod "cyfres o ffactorau cymhleth" mewn achosion o hunanladdiad a hunan-niweidio, a bod y strategaeth newydd wedi ei "thargedu'n fwriadol" at y grwpiau sydd mewn perygl.
Atal a lleihau
Mae'r cynllun hefyd yn amlinellu'r nodau a'r amcanion i atal a lleihau nifer yr achosion o hunanladdiad a hunan-niweidio yng Nghymru.
Mae'r grwpiau o bobl sy'n cael eu hystyried fel bod ganddynt risg uwch o ladd eu hunain yn cynnwys:
- Dynion canol oed
- Pobl ifanc bregus, yn arbennig y rheiny nad ydyn nhw mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth;
- Pobl dros 75 oed;
- Pobl yn y carchar neu yn y ddalfa a'r rheiny mewn gofal seiciatrig.
Bob blwyddyn yng Nghymru, mae rhwng 300 a 350 yn lladd eu hunain, sef tua tair gwaith y nifer sy'n cael eu lladd mewn damweiniau car.
Mae tua 5,500 o bobl bob blwyddyn yn mynd i'r ysbyty oherwydd eu bod yn hunan-niweidio.
'Ffactorau cymhleth'
Dywedodd yr Athro Drakeford: "Fel arfer, mae pobl yn cyflawni hunanladdiad mewn ymateb i gyfres o ffactorau cymhleth; rhai personol a rhai sy'n ymwneud â dylanwadau cymdeithasol a chymunedol ehangach.
"Mae'n drasiedi i bawb, a gall fod yn destun gofid i lawer o bobl - yr unigolyn, y teulu, ffrindiau, gweithwyr proffesiynol a'r gymuned ehangach.
"Mae ein strategaeth bum mlynedd newydd wedi'i thargedu'n fwriadol at y grwpiau hynny o bobl sydd mewn perygl arbennig o gyflawni hunanladdiad a hunan-niweidio."
Mae'r camau ar gyfer atal hunanladdiad ac achosion o hunan-niweidio, a fydd yn flaenoriaeth genedlaethol yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf, yn cynnwys:
- Ymateb mewn modd addas i argyfyngau personol, ymyrraeth gynnar a rheoli achosion o hunanladdiadau a hunan-niweidio;
- Codi ymwybyddiaeth a gwella lefelau gwybodaeth a dealltwriaeth am hunanladdiadau ac achosion o hunan-niweidio ymhlith y cyhoedd; pobl sy'n dod i gysylltiad yn aml â'r rhai sydd mewn perygl o ladd eu hunain a hunan-niweidio a gweithwyr proffesiynol yng Nghymru;
- Darparu gwybodaeth a chymorth i bobl sydd wedi colli rhywun neu'n cael eu heffeithio gan achosion o hunanladdiad a hunan-niweidio;
- Cefnogi'r cyfryngau i bortreadu achosion o hunanladdiad ac ymddygiad hunanddinistriol mewn modd cyfrifol;
- Lleihau mynediad at ffyrdd o ladd eu hunain;
- Parhau i hyrwyddo a chefnogi systemau dysgu, gwybodaeth a monitro ac ymchwil i wella dealltwriaeth pobl o hunanladdiadau a hunan-niweidio yng Nghymru, ac arwain camau gweithredu.