Kirsty Williams yn agored i glymblaid yn y Cynulliad

Kirsty Williams

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wedi dweud y byddai hi'n agored i glymblaid yn y Cynulliad - hyd yn oed gyda'r Ceidwadwyr - er beirniadaeth gan etholwyr am ei record yn San Steffan.

Yn siarad ym Mae Caerdydd, dywedodd Kirsty Williams bod cael gadael "gefynnau" llywodraeth glymbleidiol wedi rhoi "teimlad cryf o ryddhad" iddi.

Dywedodd Ms Williams ei bod yn "falch" o gyflawniadau'r Democratiaid Rhyddfrydol mewn pŵer.

Ychwanegodd bod y glymblaid wedi bod y dewis iawn i'r wlad, ond yn anghywir i'r blaid.

Canlyniadau gwael

Cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol ganlyniadau gwael yn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.

Yng Nghymru, fe wnaeth y blaid golli dwy sedd, ac fe ddisgynnodd eu cyfran o'r bleidlais yng Nghymru o 20.1% yn 2010 i 6.5%.

Mae'r blaid hefyd yn wynebu her i gadw gafael ar eu pum sedd yn y Cynulliad yn yr etholiad y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Ms Williams y byddai'r blaid yn agored i weithio gyda phlaid arall i ffurfio llywodraeth yng Nghymru, ond dim pan fydden nhw yn "gwbl fodlon gyda'r cytundeb".

Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn enwi eu harweinydd newydd ddydd Iau, gyda Tim Farron a Norman Lamb yn gobeithio olynu Nick Clegg.