Cynllun isafswm pris alcohol i 'arbed bywydau'
- Cyhoeddwyd

Bydd cyfraith i gyflwyno isafswm pris i bob uned alcohol sy'n cael ei werthu yng Nghymru yn arbed bywydau, yn ôl gweinidog.
Mae Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd, yn dweud y bydd gosod isafbris o 50c i bob uned o alcohol yn arbed bywydau ac arian drwy leihau salwch, troseddu ac absenoldeb o'r gweithle.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y mesur drafft, fyddai'n golygu bod pris potel tri litr o seidr 7% yn dyblu, a phris potel 70cl o fodca yn cynyddu o dros £3.
Amcangyfrif y llywodraeth yw y byddai cyflwyno isafswm yn:
- Arbed £109m mewn derbyniadau i'r ysbyty bob blwyddyn;
- Arwain at 3,684 yn llai o droseddau bob blwyddyn;
- Achosi 10,000 yn llai o ddiwrnodau o absenoldeb o'r gweithle bob blwyddyn.
Dywedodd Mr Gething bod "mynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru".
"Bydd cyflwyno isafbris i bob uned yn effeithio ar y diodydd hynny sy'n cael eu gwerthu am bris annerbyniol o rad yn unol â faint o alcohol sydd ynddynt.
"Mesur sydd wedi'i dargedu'n dda yw hwn gan na fydd ei effaith ar yfwyr cymedrol yn fawr iawn o gwbl ond bydd ei effaith ar yfwyr risg uchel yn sylweddol."