Cynghorydd trais i 'sicrhau gwelliannau'

  • Cyhoeddwyd
Rhian Bowen-DaviesFfynhonnell y llun, Calan DVS/Facebook
Disgrifiad o’r llun,
Mae Rhian Bowen-Davies wedi bod yn swyddog gyda Heddlu De Cymru

Mae Rhian Bowen-Davies wedi ei phenodi yn gynghorydd i "sicrhau gwelliannau" mewn gwasanaethau trais ar sail rhywedd, trais domestig a thrais rhywiol.

Bydd Ms Bowen-Davies yn gyfrifol am wella'r modd y mae gwasanaethau yn cael eu cynllunio, eu comisiynu a'r darparu.

Yn brif weithredwr Calan DVS, mae Ms Bowen-Davies hefyd wedi bod yn Reolwraig Cymorth i Fenywod Castell-nedd ac yn swyddog gyda Heddlu De Cymru.

Wrth gyhoeddi'r penodiad, dywedodd y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews: "Rwy'n falch iawn fod Ms Bowen-Davies wedi derbyn cyfrifoldebau'r rôl hollbwysig hon wrth i ni fwrw 'mlaen â'r ddeddfwriaeth sy'n torri tir newydd."

Dywedodd Ms Bowen-Davies: "Mae fy rôl yn allweddol i'r gwaith o sicrhau gwelliannau ledled Cymru mewn arweiniad ac atebolrwydd ar bob lefel, yn ogystal â gwella cysondeb ac ansawdd gwasanaethau i'r holl unigolion a theuluoedd sy'n dioddef trais a cham-drin."