Y Seintiau Newydd 0-1 Videoton

  • Cyhoeddwyd
Videoton's Andras Fejes (left) and The New Saints' Mike Wilde battle for the ballFfynhonnell y llun, PA

Mae'r Seintiau Newydd wedi colli yng nghymal cyntaf eu gêm yn ail rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn Videoton.

Sgoriodd Adam Gyurcso i bencampwyr Hwngari ar ôl 77 munud o chwarae ar gae Neuadd y Parc.

Roedd y tîm cartref wedi llwyddo i amddiffyn yn gadarn yn erbyn chwarae da gan Videoton yn yr hanner cyntaf.

Ond yn yr ail hanner, collodd Christian Seargeant y bêl y tu allan i gwrt cosbi'r Seintiau, a saethodd Gyurcso heibio Paul Harrison i gornel y rhwyd.

Cafodd Aeron Edwards gyfle i unioni'r sgôr yn hwyr yn y gêm gydag ymdrech o du allan i'r cwrt cosbi, ond cafodd ei ergyd ei wthio dros y trawst gan Peter Gabor.

Mae'r ail gymal ar 22 Gorffennaf yn y Sostoi Stadion yn Szekesfehervar.