Marwolaethau mellt: Agor cwest

  • Cyhoeddwyd
Pen-y-fan

Mae crwner wedi clywed sut y cafodd dau ddyn eu lladd gan fellt mewn dau ddigwyddiad gwahanol ar yr un diwrnod ar Fannau Brycheiniog.

Bu farw Jeremy Prescott, 51 oed, tra ar ymarferiad gyda Gwobrau Dug Caeredin ar fynydd Corn Du. Cafodd Robin Frederick Meakings, 59 oed, ei ladd yn syth wrth gerdded gyda ffrindiau ar gopa mynydd Cribyn.

Clywodd y cwest i'w marwolaethau yn Llys y Crwner yn Aberdâr fod y ddau wedi marw ar 5 Gorffennaf.

Fe ddyfarnodd crwner Powys, Andrew Barkley, mai marwolaeth o achos trawiadau trydanol gan fellt oedd yn gyfrifol yn y ddau achos.

Dywedodd cerddwyr profiadol wrth y cwest mai dyma'r tro cyntaf iddyn nhw geisio ymdopi gydag achosion o'r fath ar y mynyddoedd.

Disgrifiad o’r llun,
Roedd Jeremy Prescott o Telford yn Sir Amwythig

Yn dilyn y digwyddiad, dywedodd teulu Mr Prescott, oedd yn cael ei adnabod fel 'Jez', ei fod wedi marw'n gwneud yr hyn yr oedd yn ei garu.

Cafodd dau berson arall eu taro gan fellt yn yr un ardal ar yr un diwrnod, ond bu i'r ddau oroesi. Dim ond tri o bobl ar gyfartaledd sy'n marw o achos trawiadau gan fellt yn y DU yn flynyddol.

Dywedodd arweinydd Tîm Achub Mynydd Bannau Brycheiniog, Mark Jones ei fod yn beth hynod o anghyffredin i weld dau o bobl yn cael eu taro gan fellt ar yr un mynyddoedd a hynny ar yr un diwrnod.

Wedi'r marwolaethau fe ddywedodd Mark Jones: "Rwyf wedi bod yn achub ar y mynyddoedd yn Mannau Brycheiniog ers 30 o flynyddoedd ac nid ydw i wedi gweld y fath beth a hyn.

"Mae gweld unrhyw un yn cael ei daro gan fellten yn anarferol iawn, ac i weld mwy nag un person yn cael eu taro mewn lleoliadau gwahanol... wel mae'n eithriadol."

Dywedodd Mr Jones fod ei dîm ar ymarferion mewn dyffryn islaw Pen-y-Fan pan ddaeth y mellt a tharanau.

"Roedd yn swnllyd iawn," meddai. "Fe ddaethon ni â'r ymarferiad i ben a dyna pryd ddaeth yr alwad am y mellt."

Cafodd y cwest ei agor a'i ohirio. Bydd cwest llawn yn cael ei gynnal ar 3 Medi.

Disgrifiad o’r llun,
Y gwasanaethau brys yn y Bannau ar ddydd y digwyddiad