Cyllideb S4C 'ymysg y mwyaf hael' medd gweinidog

  • Cyhoeddwyd
S4C
Disgrifiad o’r llun,
Mae'n bosib y bydd S4C yn wynebu toriad o 10% i gyllideb y sianel

Mae S4C ymysg y darlledwyr sy'n cael eu hariannu'n fwyaf hael yn y byd darlledu, yn ôl gweinidog diwylliant llywodraeth y DU.

Fe wnaeth Ed Vaizey AS ei sylwadau am y sianel yn ystod trafodaeth yn San Steffan ar ddarlledu cyhoeddus.

Yn 2014-15, cyfraniad Llywodraeth San Steffan at gyllid S4C oedd £7m, gyda £76.0m yn dod gan y BBC drwy'r drwydded deledu.

"Mae S4C yn parhau yn un o'r darlledwyr sy'n cael eu hariannu'n fwyaf hael, nid yn unig yn y wlad yma ond drwy'r byd i gyd," dywedodd Mr Vaizey.

Ond dywedodd Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, bod toriadau sylweddol wedi bod i gyllid S4C.

Rhaglenni 'rhagorol'

Mae'r rhan fwyaf o gyllid S4C yn dod o ffi drwydded y BBC, yn ogystal â pheth gan lywodraeth y DU ac incwm masnachol, ac mi fydd argymhellion y llywodraeth ynglŷn â dyfodol y gorfforaeth yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau.

Ategodd Mr Vaizey bod S4C yn gwneud gwaith "rhagorol" i hybu rhaglenni Cymreig yn yr iaith Gymraeg.

Disgrifiad o’r llun,
Mae S4C wedi cael clod am ddramau cyfoes fel Y Gwyll

Dywedodd Hywel Williams AS bod pryder arbennig ynglŷn â dylanwad Eingl-Americanaidd ar ddarlledu.

"Dwi'n meddwl weithiau bod fy etholwyr yn Arfon yn gwybod mwy am waith yr LAPD nag ydyn nhw am Heddlu Gogledd Cymru," meddai.

Fe ddywedodd y dylai teledu a radio adlewyrchu'r gymdeithas maen nhw'n ei wasanaethu a bod gwendidau mewn newyddiaduriaeth brint.

Ychwanegodd Mr Williams: "Mae pobl yng Nghymru yn dueddol o ddarllen papurau o Loegr, o Lundain, ac mae'r sylw i fywyd Cymreig yn gyffredinol, a gwleidyddiaeth Gymreig yn benodol, yn fach iawn ac yn diflannu."

Dywedodd ei fod yn galonogol bod bron i 300,000 o bobl Cymru yn gwylio rhaglen newyddion BBC Cymru 'Wales Today' ar y teledu, ond roedd yn pryderu fod asesiad Cyngor Cynulleidfaoedd Cymru wedi dweud fod darpariaeth rhaglenni teledu Saesneg yng Nghymru yn agosach at y dibyn erbyn hyn.