Dyn yn marw ar stad ddiwydiannol
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Google
Mae dyn yn ei 30au, gafodd ei ddal mewn peiriant, wedi marw ar stad ddiwydiannol ger Wrecsam.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Barc Diwydiannol Mereside ger y ffin rhwng Wrecsam a Sir Amwythig am 12:10.
Cyrhaeddodd diffoddwyr o Whitchurch. Roedd y dyn wedi ei ryddhau o'r peiriant ond wedi marw.
Mae ymchwiliadau ar y gweill.