Diweithdra yn cynyddu o 8,000 yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae diweithdra wedi cynyddu ar draws y DU am y tro cyntaf mewn dwy flynedd
Mae diweithdra wedi cynyddu o 8,000 o'i gymharu â'r ffigyrau o'r chwarter diwethaf, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.
Fe welwyd cynnydd yn ffigyrau mis Mawrth i fis Mai yn erbyn y cyfnod o fis Rhagfyr i fis Chwefror.
Mae diweithdra wedi cynyddu ar draws y DU am y tro cyntaf mewn dwy flynedd.
Ond mae 36,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru na 12 mis yn ôl, gyda 34,000 yn llai yn cael eu disgrifio fel bod yn anweithredol yn economaidd.