Cyhuddo dyn o losgi bwriadol wedi tân Capel Aberfan
- Cyhoeddwyd

Fe fydd swyddogion y cyngor nawr yn penderfynu a ddylid dymchwel yr adeilad
Mae dyn 26 oed wedi ei gyhuddo o losgi bwriadol yn dilyn tân mewn capel yn Aberfan dros y penwythnos.
Bydd Daniel Brown yn ymddangos yn Llys y Goron Merthyr Tudful ar 28 Gorffennaf.
Fe gafodd Capel Aberfan, sy'n dyddio nôl i 1876, ei ddinistrio yn llwyr gan y tân ddechreuodd tua 02:00 ddydd Sadwrn, 11 Gorffennaf.
Cafodd rhai o'r bobl oedd yn byw gerllaw eu symud o'u cartrefi yn ystod y digwyddiad rhag ofn i'r tân ledu.