Corn simnai wedi ei rwystro mewn tŷ ble bu farw dynes
- Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed bod corn simnai tân glo yn nhŷ dynes fu farw wedi ei rwystro. Mae amheuaeth ei bod wedi marw oherwydd gwenwyn carbon monocsid.
Fe gafodd corff Kimberly Jones, 25 oed, ei ddarganfod gan barafeddyg yn y tŷ yng Nghwmbach, Aberdâr, ar 9 Awst 2013.
Clywodd y cwest Aberdâr bod profion ar y tân wedi dangos bod y corn simnai wedi ei rwystro, gan olygu bod mwg yn dod i mewn i'r ystafell.
Yn y profion, fe gafodd lefelau carbon monocsid 16 gwaith y lefel derbyniol ei gofnodi.
Simnai fudr
Fe wnaeth yr archwilydd Howard Reed ddarganfod bod y corn simnai yn fudr, ac wedi iddo gynnal prawf, fe welodd bod mwg yn dod i mewn i'r ystafell.
Ar ôl dwy awr, roedd lefelau carbon monocsid yn yr ystafell yn 829 rhan i bob miliwn o'r nwy yn yr ystafell.
Byddai larwm carbon monocsid arferol yn canu ar lefel o 50 rhan i bob miliwn, ac mae lefelau rhwng 600 a 750 yn debygol o achosi marwolaeth.
Dywedodd yr archwiliwr ei bod yn debygol nad oedd y corn simnai wedi ei lanhau ers "nifer o flynyddoedd" er bod nodyn ar ochr y tân yn dweud y dylid ei asesu yn fisol.