Gwylwyr y Glannau yn chwilio am bysgotwr ar goll
- Published
Mae Gwylwyr y Glannau wedi lansio badau achub a hofrennydd i chwilio am bysgotwr sydd ar goll oddi ar arfordir gogledd Cymru.
Cafodd y gwasanaethau brys alwad gan aelod o deulu'r pysgotwr ar ôl iddo fethu a dychwelyd ar amser yn ei long.
Mae pedwar o fadau achub o Landudno a'r Rhyl yn chwilio'r ardal oddi ar arfordir Llanddulas ger Bae Colwyn, yn ogystal â'r hofrennydd o Gaernarfon.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau eu bod wedi dod o hyd i rafft achub oedd yn berchen i'r llong.
Dywedodd Rheolwr Gwylwyr y Glannau, Graham Clark: "Rydyn ni'n poeni bod y pysgotwr yma o bosib wedi mynd i'r dŵr dros nos. Er hynny mae'r chwilio yn parhau."