Agor drysau 'tŷ clyfar' cyntaf Prydain

  • Cyhoeddwyd
ty gwyrdd

Bydd drysau tŷ go arbennig sy'n mynd gam o'r ffordd o dorri'n ôl ar ynni carbon yn agor yn agor yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn ddiweddarach.

Yn ôl arweinwyr prosiect tŷ Solcer - mae'r adeilad yn torri tir newydd am mai dyma'r tŷ cyntaf ym Mhrydain sy'n cynhyrchu mwy o ynni nag y mae'n ei ddefnyddio.

Mae'r ynni sydd dros ben yn ymuno â'r grid cenedlaethol. Aeth gohebydd BBC Cymru, Gwenllian Grigg draw i gael cipolwg ar y tŷ ar ein rhan.

Nawr, mae gen i ffôn clyfar, dwi'n nabod ambell i berson clyfar, ond dyma'r tro cynta erioed i mi gerdded i mewn i dŷ clyfar.

Yr Athro Phil Jones o Brifysgol Caerdydd yw pensaer y tŷ Solcer neu'r tŷ clyfar hwn, sy'n rhan o brosiect Solcer y Sefydliad Ymchwil Carbon isel Cymru (yr LCRI).

Mae'r Athro Jones a'i dîm yn dweud eu bod cyfuno systemau unigryw i greu tŷ sy'n cynhyrchu mwy o ynni nag y mae'n ei ddefnyddio, a hynny heb dorri'r banc.

Mae'r tŷ i'w weld yn ddigon modern, ond ar wahan i hynny, fyddech chi ddim yn meddwl bod unrhyw beth yn arbennig amdano fe, ond mae'r gwirionedd yn ddigon gwahanol.

Disgrifiad o’r llun,
Yr Athro Phil Jones o Brifysgol Caerdydd sy'n gyfrifol am ddyluniad y tŷ
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r paneli solar ar do'r tŷ wedi eu cynhyrchu gan gwmni o Drefforest
Disgrifiad o’r llun,
Bydd y tŷ yn cael ei fonitro er mwyn sicrhau ei fod yn effeithlon

Mae'r waliau wedi eu gwneud o ddeunydd insiwleiddio go arbennig, ac mae 'na baneli haearn ar y wal ar flaen y tŷ.

Mae'r rheiny'n edrych yn ddigon addurniadol fyddech chi'n meddwl, ond mae iddyn nhw eu swyddogaeth, mae 'na gannoedd ar filoedd o dyllau ynddyn nhw, a'r hyn maen nhw'n ei wneud yw tynnu'r awyr o'r tu allan, ei gynhesu fe y tu fewn ac yna'i ddosbarthu fe i wahanol stafelloedd.

Dim rheiddiaduron felly. Ac er nad yw'n anarferol erbyn hyn gweld paneli solar ar doi, mae to'r tŷ Solcer yn un panel solar mawr i bob pwrpas - sydd wedi ei gynhyrchu gan gwmni o Drefforest - ac mae'r ynni yn cael ei storio mewn batris yn atig y tŷ.

Nawr bod y tŷ wedi ei adeiladu, bydd perfformiad y tŷ yn cael ei fonitro er mwyn defnyddio'r ynni yn y ffordd mwya' effeithlon.

Bydd y wybodaeth sy'n dod ohono'n cael ei ddefnyddio ar brosiectau yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod Cymru'n parhau'n ganolog wrth ddatblygu tai di-garbon.