Parhau i chwilio am bysgotwr ar goll o'r gogledd

  • Cyhoeddwyd
Bad AchubFfynhonnell y llun, RNLI
Disgrifiad o’r llun,
Daeth un criw o hyd i rafft achub oedd yn berchen i'r llong ddydd Mercher

Mae Gwylwyr y Glannau yn parhau i chwilio am bysgotwr a llong oddi ar arfordir gogledd Cymru ar ôl i rafft achub gael ei darganfod yn y môr.

Fe wnaeth hofrennydd a sawl bad achub ddechrau chwilio mewn ardal ger Llanddulas, Bae Colwyn fore Mercher.

Mae achubwyr yn poeni bod y dyn wedi mynd i mewn i'r môr.

Bydd y chwilio yn dechrau ar y lan fore Iau.

Cafodd y gwasanaethau brys alwad gan aelod o deulu'r pysgotwr ar ôl iddo fethu a dychwelyd ar amser yn ei long.

Llong bysgota, sy'n 25 troedfedd o hyd, sydd ar goll.

Fe wnaeth Gwylwyr y Glannau ddechrau drwy chwilio'r ardal rhwng Llandudno a'r Rhyl cyn symud i ardal ger Llanddulas.