Hel arian i dalu i farw: Canslo digwyddiad
- Cyhoeddwyd

Mae dynes o Lanelli sy'n ceisio hel arian er mwyn talu i'w mam, sy'n dioddef o glefyd motor niwron, farw mewn clinig yn y Swistir, wedi gorfod canslo digwyddiad.
Mae Tara O'Reilly yn dweud bod ei mam, sy'n dioddef o glefyd niwronau motor, eisiau marw gydag urddas.
Dywedodd Ms O'Reilly ei bod hi am helpu ei mam Jackie Baker i ddewis pryd a sut y mae hi'n marw.
Mae cynorthwyo rhywun i ladd eu hunain neu i geisio lladd eu hunain yn drosedd ac mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dweud eu bod yn ymwybodol o'r achos ac yn ymchwilio i'r ymgyrch i hel arian.
'Creulon'
Yn ôl Ms O'Reilly, mae hi angen £8,000 i dalu i deithio i glinig Dignitas a does ganddi ddim dewis ond gofyn am gymorth.
Roedd hi wedi trefnu noson elusennol i geisio cyrraedd y nod.
Ond bnawn Iau, fe ddywedodd fod y noson wedi ei chanslo, ar ôl i ddau heddwas ymweld â hi a'i chwaer, gan ei rhybuddio fod rhoi cymorth i rywun farw yn drosedd.
Gall person sy'n cynorthwyo rhywun arall i ladd eu hunain wynebu hyd at 14 o flynyddoedd yn y carchar, petai'r heddlu yn eu herlyn.
Dywedodd Ms O'Reilly wrth BBC Cymru bod y teulu wedi meddwl yn ofalus am ddymuniadau ei mam.
"Fe wnaeth fy mam siarad gyda fi a fy chwaer am y peth a dweud os yw'n gwaethygu, fel y mae wedi, yna roedd hi eisiau mynd i'r Swistir.
"Roedden ni mor drist, oherwydd mae'n amhosib meddwl am y peth.
"Ond wrth i'r misoedd fynd heibio, ac rydyn ni wedi gweld faint y mae hi wedi dirywio, yn methu bwydo ei hun na gwisgo ei hun.
"Mae'n greulon. Bydde' chi ddim yn gadael i gath neu gi ddioddef, bydde' chi'n mynd a nhw i'r milfeddyg. Dyna sy'n garedig.
"Nid yw hyn yn garedig. Gorfod sychu ceg eich mam, ei bwydo a rhoi diodydd iddi drwy welltyn."