Gwylwyr y Glannau: Ymgyrch chwilio am bysgotwr ar ben

  • Cyhoeddwyd
Bad AchubFfynhonnell y llun, RNLI
Disgrifiad o’r llun,
Daeth un criw o hyd i rafft achub oedd yn berchen i'r llong ddydd Mercher

Mae Gwylwyr y Glannau yn dweud bod yr ymgyrch chwilio am bysgotwr ar goll oddi ar arfordir gogledd Cymru wedi dod i ben.

Roedd badau achub a hofrennydd wedi bod yn chwilio ardal ger Llanddulas, Bae Colwyn ers bore dydd Mercher, ar ôl i aelod o deulu'r pysgotwr alw'r gwasanaethau brys.

Cafodd y pysgotwr ei enwi'n lleol fel Brian Hughes.

Nid oedd wedi dychwelyd yn brydlon a doedd neb wedi clywed ganddo ers nos Fawrth.

Daeth achubwyr o hyd i rafft achub y llong ddydd Mercher, ond dywedon nhw bod y chwilio wedi dod i ben am 10:15 ddydd Iau.

Dywedodd Rheolwr Gwylwyr y Glannau, Graham Clark: "Rydyn ni wedi chwilio'n eang ddoe a'r bore 'ma, yn anffodus nid yw'r pysgotwr wedi ei ddarganfod.

"Mae ei deulu wedi cael gwybod bod y chwilio wedi dod i ben."

Llong bysgota 25 troedfedd o hyd sydd ar goll, a'r gred yw mai un person oedd arni.