Parcio am ddim: 'Hwb i fusnesau yn Aberteifi'

  • Cyhoeddwyd
Vandalised parking meter
Disgrifiad o’r llun,
Mae perchnogion siopau yn gobeithio bydd y cyngor yn lleihau pris parcio

Mae perchnogion siopau yn Aberteifi yn dweud bod gwerthiant wedi codi gymaint â 30% ers i ladron falu peiriannau talu am barcio.

Ers cychwyn mis Mehefin, mae pobl wedi gallu parcio am ddim mewn nifer o feysydd parcio'r cyngor yn y dref o ganlyniad i'r difrod.

Yn ôl y masnachwyr, mae siopwyr wedi dweud wrthyn nhw pa mor braf ydi gallu dod i mewn i'r dref heb orfod talu am barcio.

Mae Cyngor Sir Ceredigion bellach yn cael eu hannog i ddysgu gwersi a thorri prisiau parcio er mwyn helpu busnesau'r dref yn yr hirdymor.

Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb gan y cyngor.

Tesco ac Aldi yn elwa

Dywedodd Martin Radley, cadeirydd Masnachwyr Aberteifi: "Roedd 'na gyfarfod nos Fawrth ac roedd sawl un yn dweud bod hi'n teimlo'n brysurach.

"Dywedodd un aelod fod ei gwerthiant wedi codi 30%, hyd yn oed ar ddydd Sadwrn."

Mae Mr Radley yn rhedeg The Queen Bakery yn Aberteifi, busnes sydd wedi bod yn y teulu ers 1931, ac mae o'n credu bod siopwyr yn ymlacio mwy ac yn cymryd eu hamser i siopa heb orfod poeni am gost parcio.

Mae'n derbyn y bydd talu am barcio yn dychwelyd ond mae o'n gobeithio bydd y cyngor yn sylweddoli bod busnes wedi codi yn y dref dros yr wythnosau diwethaf.

"Rydym ni wedi dweud ers tro nad costau uchel i barcio ydi'r ateb i'r stryd fawr," meddai.

"Yr unig rai sy'n elwa o hynny ydi'r siopau mawr, fel Tesco ac Aldi, sydd ddim yn codi tal am barcio yn barod."