Negeseuon: Dim achos disgyblu yn erbyn Malky Mackay
- Cyhoeddwyd
Fydd cyn reolwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, Malky Mackay, a chyn bennaeth recriwtio'r clwb, Iain Moody, ddim yn wynebu achos ddisgyblu gan y Gymdeithas Bêl-droed wedi honiadau o yrru negeseuon testun hiliol a rhywiaethol.
Wedi ymchwiliad "trwyadl" sydd wedi cymryd 11 mis dywedodd y mudiad fod gan y ddau ddisgwyliad teg bod y negeseuon yn rhai preifat.
Mae Mackay a Moody wedi cydnabod bod rhai o'r geiriau yn y negeseuon yn anaddas, ond yn gwadu eu bod nhw'n bobl hiliol.
Cafodd y negeseuon eu gyrru yn ystod cyfnod y ddau gyda'r Adar Gleision yn 2013.
'Tanseilio hygrededd'
Dywedodd y mudiad fod yr ymchwiliad wedi cymryd yn hirach na'r disgwyl oherwydd "pryderon difrifol" ynglŷn â sut cafodd peth o'r dystiolaeth ei gasglu.
Mae Caerdydd wedi dweud na fyddan nhw'n ymateb i'r penderfyniad tan iddyn nhw gael cyfle i "ystyried ei safle".
Yn ôl Kick It Out, mudiad sy'n ymgyrchu yn erbyn hiliaeth ym myd pêl-droed, mae'r mudiad pêl-droed wedi tanseilio hygrededd eu polisïau gwrth-wahaniaethu eu hunain drwy beidio cynnal achos disgyblaeth.
Dywedodd llefarydd ar ran Kick It Out: "Sut all unrhyw un herio gwahaniaethu ac agweddau rhagfarnllyd yn y byd pêl-droed gydag unrhyw hyder?"
Mae Mackay yn ddiwaith eto ar hyn o bryd ar ôl cael ei ddiswyddo gan Wigan wedi chwe mis wrth y llyw ym mis Ebrill.