Saith Diwrnod

  • Cyhoeddwyd
Baner y Taleithiau CydffederalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
I rai, mae baner y Taleithiau Cydffederal yn cynrychioli egin wladwriaeth a gefnogai gaethwasiaeth

Catrin Beard sy'n trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau.

Yn ddiweddar bu'r Hogyn o Rachub yn synfyfyrio am y ddadl ffyrnig sydd wedi digwydd dros y pwll mawr ynghylch baner y Taleithiau Cydffederal.

Mae'n faner sy'n cynrychioli egin wladwriaeth a gefnogai gaethwasiaeth, a gan ddibynnu ar eich safbwynt, mae'n cynrychioli naill ai caethwasiaeth neu ryw fath o falchder rhanbarthol.

Y cwestiwn ydi, ymhle mae'r llinell? Os derbyniwn fod baner y Taleithiau Cydffederal o hyd yn cynrychioli hiliaeth yna mae'n deg cael gwared ohoni.

Ond pwynt yr Hogyn yw bod baneri nifer o wledydd yn Ewrop yn rhai sydd, i nifer o bobl ledled y byd, yn cynrychioli gormes, erledigaeth a thrais.

Mae baner yr Undeb yn enghraifft berffaith. Dydi ymerodraethau ddim yn tyfu drwy fod yn neis. Fe'u crëir drwy ryfel, gormes a chreulondeb - does dim eithriad i hynny.

Mae llawer o Brydeinwyr yn ymfalchïo yn eu baner heb ddeall yr hyn y mae'n ei olygu i gynifer o bobl eraill mewn rhannau eraill o'r byd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Allai'r argyfwng diweddar yng Ngwlad Groeg fod yn hwb i'r rheiny fydd yn ymgyrchu i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd?

Ac o sôn am anesmwythyd rhyngwladol, yr anniddigrwydd sydd wedi bod yn amlwg tuag at Wlad Groeg a'r Undeb Ewropeaidd dros yr wythnosau diwethaf sy'n cael sylw Iolo Cheung ar flog Golwg360.

Yn ôl Iolo, dyw hi ddim yn anodd gweld pam y gallai'r argyfwng diweddar fod yn hwb i'r rheiny fydd yn ymgyrchu i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2017.

Mae dadleuon yr adain dde wleidyddol wedi cael llwyfan amlwg ers sbel, gyda phryderon ynglŷn â mewnfudwyr o Ewrop yn cymryd swyddi neu fudd-daliadau.

Ond mae ymgyrchwyr adain chwith hefyd wedi bod yn cynnal protestiadau yn ddiweddar gan godi pryderon fod yr Undeb Ewropeaidd yn poeni am fuddiannau'r banciau a busnesau mawr yn unig, gan falio dim am effaith hynny ar bobl gyffredin mewn gwledydd fel Gwlad Groeg.

Mae'n ymddangos, dywed, fod yr Undeb Ewropeaidd yn amhoblogaidd ymysg pobl ar hyd y sbectrwm gwleidyddol ar hyn o bryd - amser a ddengys a fydd hynny'n dechrau dangos yn y polau piniwn ynglŷn â'r refferendwm dros y misoedd nesaf.

Caneuon hinsawdd

Ond at bethau pwysig bywyd. Lyn Ebenezer yn y Cymro sy'n sôn am ymchwil gan wyddonwyr hinsoddol o bump o brifysgolion Lloegr, sydd wedi bod yn holi pa seren neu grŵp pop sydd wedi canu fwyaf am y tywydd, gan astudio 15,000 o ganeuon.

Ar y brig roedd Bob Dylan, gyda 163 o gyfeiriadau at y tywydd allan o 542 o'i ganeuon, yn cynnwys wrth gwrs Blowing in the Wind.

Y Beatles oedd yn ail, ac ymhlith y lleill yn y rhestr oedd Vanilla Ice, Boney M ac Elton John.

Yr haul neu law oedd yn cael y sylw pennaf, yna'r gwynt - prin iawn fu'r defnydd o luwchfeydd neu gorwyntoedd.

Dyna chi ddiddorol, ynte, medd Lyn. Ie, diddorol iawn.

Disgrifiad o’r llun,
Mae rhywbeth arbennig iawn am y profiad unigryw o fod yng nghanol y Mynydd Du, yn ôl Andrew Green

Un sydd wedi bod yn profi'r tywydd yn hytrach na gwrando ar bobl yn canu amdano yw'r cyn Lyfrgellydd Cenedlaethol, Andrew Green, sy'n blogio am ei deithiau cerdded o gwmpas Cymru.

Yn ddiweddar bu ar y Mynydd Du, sydd, dywed, yn ardal ddieithr i lawer, yn fwy anghysbell ac unig na'r Bannau canolog a dwyreiniol.

Ond yn ôl Andrew, mae rhywbeth arbennig iawn am y profiad unigryw o fod yng nghanol y Mynydd Du - o droedio ar eich pen eich hun ar y mawn a'r grug a'r cerrig, o edrych o amgylch a gweld neb ym mhob cyfeiriad; o deimlo'r gwynt cryf a'r haul (weithiau) ar eich croen, a chlywed yr ehedyddion yn bell uwch eich pen; o ddilyn afon i'w ffynhonnell; o ddychmygu sut le oedd hwn filoedd o flynyddoedd yn ôl.

Lle mae'r sgidiau cerdded yna…?