Pryder am 'orlenwi' cwricwlwm gyda chyrsiau newydd

Disgyblion TGAU
Image caption Bydd y disgyblion hyn ymysg y rhai fydd yn dechrau'r cyrsiau newydd ym mis Medi

Fe allai'r cyrsiau TGAU unigryw i Gymru, sy'n dod i rym ym mis Medi, orlenwi'r cwricwlwm, yn ôl undeb athrawon.

Disgyblion sy'n dechrau Blwyddyn 10 ym mis Medi fydd y cyntaf i ddilyn cyrsiau Cymraeg iaith, Saesneg iaith a mathemateg newydd.

Fe fydd y cyrsiau Cymraeg a Saesneg yn rhoi mwy o bwyslais ar sgiliau darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando.

Bydd disgwyl i'r rhan fwyaf o ddisgyblion sefyll dau arholiad mathemateg, gyda dau gymhwyster.

Nod cymhwyster TGAU Mathemateg fydd rhoi'r sgiliau sydd eu hngen ar gyfer astudiaeth bellach o fathemateg neu wyddoniaeth, tra bod TGAU Mathemateg - Rhifedd yn canolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer bywyd pob dydd, dysgu a gwaith.

'Dyblu'r amser'

Ond dywedodd David Healey o undeb yr ATL: "Gyda mathemateg yn newid i ddau gwrs, mae disgwyl i gwrs TGAU gymryd 120 o oriau dysgu.

"Mae hyn, i bob pwrpas, yn dyblu'r amser ddylai gael ei dreulio ar fathemateg, ond mae'r llywodraeth yn dweud y gallai gael ei wneud yn amser un cymhwyster.

"Dydw i ddim yn rhy siŵr sut mae hynny i fod i weithio, ond fe welwn ni."

'Ar draul'

O fis Medi ymlaen bydd y cyrsiau TGAU newydd yn cyfri tuag at y ffordd mae ysgolion yn cael eu mesur.

"Mae 'na lawer mwy o bynciau gorfodol sydd, yn amlwg, yn cael effaith ar bynciau opsiynol fel Ffrangeg, Daearyddiaeth, Hanes ac yn y blaen, a'r niferoedd sy'n gallu eu hastudio," meddai Mr Healey.

"Felly mae'r pynciau gorfodol yn cael eu cyflwyno ar draul nifer o'r pynciau opsiynol."

Ond mae'r Gweinidog Addysg Huw Lewis yn mynnu y gall y ddau gymhwyster mathemateg gael eu hastudio yr un adeg â'r un cymhwyster blaenorol.

Dywedodd wrth raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru, y byddai mwy o'r cwrs yn canolbwyntio ar yr hyn fydd yn yr arholiad, fydd yn arwain at ddisgyblion yn cael "gwell ddealltwriaeth o'r holl gwrs nid rhan gyfyng ohono'n unig".

'Gair olaf'

Mae Mr Lewis wedi dweud na ddylai pynciau sydd ddim yn orfodol gael eu hesgeuluso o ganlyniad i'r newidiadau.

"Rydyn ni wedi gweithio gydag ysgolion i'n cynghori ni am sut mae modd rhoi'r amserlen at ei gilydd," meddai.

"Ond nid fi ddylai ddweud wrth ysgolion sut i roi'r pynciau yn yr amserlen. Mae hynny'n fater iddyn nhw. Nhw sydd â'r gair olaf ar hynny.

"Ond ein cyngor ni yw nad oes galwad i gyfyngu ar y nifer o bynciau sy'n cael eu cynnig."