Cynllun cynyddu niferoedd meddygon teulu a nyrsys

Doctor Image copyright Thinkstock
Image caption Mae disgwyl i bron chwarter meddygon teulu ymddeol dros y pum mlynedd nesaf

Mae'r Gweinidog Iechyd yn cyhoeddi cynllun i gynyddu niferoedd meddygon teulu a nyrsys cymunedol yng Nghymru.

Ymhlith y mesurau mae cynnig gwaith rhan-amser i ddoctoriaid sy'n ystyried ymddeol a thalu ffïoedd myfyrwyr meddygol sy'n ymrwymo i fod yn feddygon teulu.

Bydd £4.5m ychwanegol ar gyfer recriwtio a hyfforddiant tra bydd y rhwydwaith o 64 "clwstwr" iechyd cymunedol ar waith yn llawn.

Dywedodd Mark Drakeford ei fod eisiau "gwneud y mwyaf" o sgiliau staff.

'Argyfwng'

Yn gynharach eleni fe ddywedodd Coleg Brenhinol Meddygon Teulu Cymru bod "argyfwng" oherwydd nifer meddygon teulu, gyda disgwyl i bron chwarter ohonyn nhw ymddeol dros y pum mlynedd nesaf.

Hefyd byddai llai o fyfyrwyr sydd eisiau cymryd eu lle.

Mae'r strategaeth yn edrych ar ffyrdd newydd o weithio rhwng meddygon teulu, fferyllwyr, deintyddion, optometryddion, therapyddion, nyrsys a gweithwyr gofal.

Mae Mr Drakeford eisiau gwell hyfforddiant, cynllunio a rhannu dogfennau, fel y gall gleifion gael triniaeth fwy effeithiol y tu allan i ysbytai.

Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys:

  • Cynyddu'r nifer sy'n cymryd cyrsiau dychwelyd-i-nyrsio;
  • Cynllun cenedlaethol i recriwtio meddygon teulu, fydd yn pwysleisio manteision gyrfa yng Nghymru;
  • Ehangu'r 64 "clwstwr" gofal cynradd;
  • Newid y gyfraith fel ei bod yn haws i feddygon teulu, sydd wedi'u cofrestru i weithio yn Lloegr, weithio yng Nghymru am amser byr heb fod angen gwneud cais i ymuno â rhestr y bwrdd iechyd;
  • Dadansoddi anghenion pobl sy'n siarad Cymraeg a chefnogi'r gweithlu sy'n cwrdd âr anghenion hynny.

Canolfan Iechyd Cricieth

Image copyright Google
Image caption Dywedodd Dr Melfyn Edwards o Ganolfan Iechyd Cricieth fod y sefyllfa'n "bryder i ysbryd" meddygon teulu

Fe aeth Gohebydd Iechyd BBC Cymru Owain Clarke i Ganolfan Iechyd Cricieth, yng Ngwynedd, lle mae 4,000 o gleifion wedi'u cofrestru. Ond mae prinder meddygon teulu yn lleol a phoblogaeth hŷn yn golygu bod mwy o alw am wasanaethau. Gall rhai cleifion ddisgwyl hyd at fis ar gyfer apwyntiad.

Dywedodd Dr Melfyn Edwards: "Mae recriwtio wedi bod yn fethiant am nifer o resymau. Mae'r sefyllfa'n llwm yn lleol.

"Mae'n bryder i ysbryd meddygon teulu. Mae hi'n anodd ceisio cadw'n hapus ar yr wyneb a darparu gwasanaeth o safon pan ydach chi dan gymaint o bwysau'n ddyddiol.

Dadansoddiad Gohebydd Iechyd BBC Cymru, Owain Clarke

Yn ôl sawl meddyg teulu mae'r sefyllfa ar hyn o bryd yn argyfwng.

Yn ôl Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu mae tua chwarter y meddygon teulu yng Nghymru yn nesáu at oedran ymddeol - ac eraill ar yr un pryd yn dewis gadael oherwydd pwysau gwaith.

Anifail prin medden nhw yw'r meddyg teulu mewn rhai mannau erbyn hyn ac mae'r broblem yn ymddangos ar ei gwaetha mewn ardaloedd gwledig - yn y gogledd, y gorllewin a'r cymoedd.

Mae 'na sawl enghraifft o feddygfeydd yn cau, wedi cau neu'n cael eu cynnal gan feddygon dros dro.

Ond mae'r galw am y gwasanaeth yn cynyddu o hyd - yn rhannol oherwydd ein bod ni'n byw yn hŷn.

Mewn ymdrech, medden nhw, i gryfhau'r gweithlu mae Llywodraeth Cymru yn ystyried amryw o fesurau gan gynnwys ad-dalu ffioedd myfyrwyr a chynnig cyflog ychwanegol i feddygon teulu sy'n dewis gweithio mewn mannau lle bo prinder.

Yn ogystal â hynny fe fydd 'na ymgyrch recriwtio genedlaethol - a mesurau yn cael eu cyflwyno i'w gwneud hi'n haws i unigolion sydd wedi gadael y gwasanaeth iechyd - meddygon teulu a nyrsys - i ail-ymuno.

Ond er mwyn mynd i'r afael â heriau'r dyfodol mae'r cynllun yn dweud yn eglur nad meddygon yn unig sy'n allweddol - fe fydd angen i'r gwasanaeth iechyd wneud gwell defnydd o sgiliau amryw o arbenigwyr fel fferyllwyr, therapyddion, ac optegwyr.

Dywedodd Mr Drakeford: "Ein nod yw cwrdd â'r galw cynyddol am ofal iechyd, gan wneud y mwyaf o sgiliau ein gweithlu gofal cynradd ymroddedig, a'u cefnogi nhw yn eu nod o wella'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu bob dydd."

Straeon perthnasol