FC Copenhagen 2-0 Y Drenewydd

Y Drenewydd Image copyright AP
Image caption Roedd torf o 8,104 yn Stwdiwm Parken ym mhrifddinas Denmarc

Mae gan Y Drenewydd her fawr o'u blaenau i gyrraedd y drydedd rownd ragbrofol yng Nghynghrair Europa wedi iddyn nhw golli o 2-0 yn erbyn FC Copenhagen yn Denmarc nos Iau.

Roedd y tîm cartref ar y blaen gyda thri munud yn unig ar y cloc, wrth i Benjamin Verbic gyfarfod croesiad Peter Ankersen i benio i gornel isaf y rhwyd.

Y clwb orffennodd yn ail yng nghynghrair Denmarc y llynedd oedd yn rheoli'r chwarae trwy weddill yr hanner cyntaf, gyda Marvin Pourie yn taro'r trawst a Nicolai Jorgensen yn dod yn agos fwy nag unwaith.

Er amddiffyn ystyfnig Y Drenewydd, fe lwyddodd y tîm cartref i ddyblu eu mantais gyda chwarter awr yn weddill wrth i ergyd isel Kasper Kusk o du allan i'r cwrt cosbi guro Dave Jones yn y gôl.

Mae'r canlyniad yn golygu bod gan dîm Chris Hughes her o'u blaenau os am gyrraedd y rownd nesaf, gyda'r ail gymal ym Mharc Latham yn cael ei chynnal nos Iau, 23 Gorffennaf.