'Achos cryf' dros drydanu rheilffyrdd gogledd Cymru
- Published
Mae "achos cryf" o blaid trydanu rheilffyrdd gogledd Cymru, yn ôl y Canghellor George Osborne.
Mae trydanu rheilffyrdd ar fin dechrau yn ne Cymru, ond does dim penderfyniad eto am y gogledd.
Mae Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda busnesau i wneud yr achos am y buddsoddiad sydd ei angen i roi cymeradwyaeth i'r cynllun.
Ond dywedodd Mr Osborne y byddai unrhyw benderfyniad yn ddibynnol ar gynllun HS2, a'r posibilrwydd o greu hwb rheilffyrdd yn Crewe.
Mae trydanu rheilffyrdd yn golygu gwasanaethau mwy dibynadwy a chyflym, fyddai'n help i fusnesau a'u gweithwyr i ddod i'r gwaith.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb y byddai trydanu yn hwb mawr i'r ardal, ac y gallai digwydd yn y tymor hir.