Pennaeth y Llyfrgell Genedlaethol i ymddeol o'i rôl
- Cyhoeddwyd
Adroddiad Aled Huw, Newyddion 9.
Mae prif weithredwr a llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi datgan ei fwriad i ymddeol o'i rôl fis nesaf.
Bydd yr Athro Aled Gruffydd Jones yn gadael ar ei ben-blwydd yn 60 oed.
Ychydig dros ddwy flynedd sydd wedi bod ers i'r Athro Jones ddechrau yn y rôl.
Mae wedi bod yn gyfnod cythryblus i'r Llyfrgell.
Ym mis Ebrill 2013 cafodd rhan o'r adeilad ei ddifrodi gan dan.
Yna fis Tachwedd y llynedd fe gollodd y llyfrgell achos tribiwnlys ddyfarnodd bod dau aelod o staff wedi eu diswyddo yn annheg.
Nawr mae AC Ceredigion Elin Jones wedi galw ar y Llyfrgell i ymddiheuro i Arwel Jones ac Elwyn Williams ac i ddysgu gwersi.
"Mae angen i'r Llyfrgell Genedlaethol ymddiheuro am rai o'r camgymeriadau hynny a sut maen nhw wedi effeithio ar fywydau pobl."
Mewn datganiad, wrth gyfeirio at benderfyniad y Llyfrgellydd i ymddeol fe wnaeth Syr Deian Hopkin llywydd y llyfrgell ddiolch i'r Athro Jones am ei waith, "nid yn unig wrth ymdrin ag effaith tân difrifol 2013 a thasg anodd ailstrwythuro corfforaethol, ond hefyd wrth gynorthwyo'r Llyfrgell i ail-leoli ei hun yng nghanol y gymdeithas ehangach drwy ymestyn ei gwaith".
"Gwn y bydd fy nghyd Ymddiriedolwyr a staff y Llyfrgell am ddymuno dymuniadau da iddo i'r dyfodol," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2015
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2014