Gwrthdrawiad lori Gwynedd: Dynes wedi'i hanafu

  • Cyhoeddwyd
Talysarn
Disgrifiad o’r llun,
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Nantlle yn Nhalysarn

Mae dynes oedrannus wedi'i hanafu'n ddifrifol ar ôl gwrthdrawiad gyda lori ddadlwytho yng Ngwynedd brynhawn Gwener.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Nantlle yn Nhalysarn, a chafodd yr heddlu eu galw am 16:03.

Fe gafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor mewn hofrennydd.

Dywedodd yr heddlu mai lori ddadlwytho Ford Transit oedd wedi bod yn y gwrthdrawiad.

Does dim mwy o wybodaeth wedi ei ryddhau ar hyn o bryd.