Ras yr Wyddfa yn dathlu pen-blwydd yn 40 oed
- Cyhoeddwyd

Mae 600 o gystadleuwyr wedi cymryd rhan yn Ras yr Wyddfa ddydd Sadwrn wrth i'r gystadleuaeth ddathlu ei phen-blwydd yn 40 oed.
Yr Eidalwr Emmanuel Manzi ddaeth yn fuddugol eleni, a Richard Roberts oedd y Cymro cyntaf i orffen y ras.
Roedd man cychwyn y ras yn dychwelyd i Stryd Fawr Llanberis er mwyn dathlu'r pen-blwydd, a hefyd cyn y ras roedd enillwyr o'r gorffennol yn cael eu cyflwyno i'r dorf.
Mae'r ras yn cael ei hystyried yn un o'r mawrion ymhlith rhedwyr mynydd, ac mae'n denu rhai o redwyr gorau Ewrop.
Roedd ras eleni yn para 10.5 milltir i fyny ac i lawr mynydd uchaf Cymru, ac roedd yn achlysur arbennig i ddau redwr - Linda a Bryan - am eu bod wedi dyweddio ar ddiwedd y ras.
Dywedodd y trefnydd Stephen Edwards: "Mae'n mynd i fod yn gyfnod diddorol a chyffrous yn Llanberis.
"Dwi'n cofio bod ar y pwyllgor trefnu yn 13 oed, a dwi'n dal i ryfeddu at y digwyddiad ac mae'n anrhydedd erbyn hyn i fod yn trefnu'r achlysur.
"Roedd yna nod i ddathlu'r pen-blwydd gyda digwyddiadau yn para am wythnos, a dwi'n teimlo ein bod wedi llwyddo i ddod ag awyrgylch carnifal i'r pentre' unwaith eto."