Trydanu'r rheilffyrdd: 'Cymryd mwy o amser'
- Cyhoeddwyd

Mae Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb wedi dweud y gallai trydanu'r rheilffordd Great Western i Abertawe gymryd mwy o amser na'r disgwyl.
Roedd yn siarad ar raglen Sunday Politics Wales y BBC ddydd Sul.
Y bwriad ydi cwblhau'r cynllun erbyn 2018, ond mae oedi wedi bod yn y broses o drydanu rhannau eraill o'r rheilffyrdd o amgylch y DU.
Dywedodd Mr Crabb: "Fe allwn warantu y bydd yn cael ei drydanu draw at Abertawe. Mae'r ymrwymiad yna, yn gwbl gadarn.
"Mae gan Network Rail lawer o beli'n yr awyr ar hyn o bryd.
"Maen nhw wedi mynd i broblemau o ran cwblhau rhai o'r cynlluniau hyn ar amser, ac mae fynny iddyn nhw ddod ymlaen ag esbonio hynny.
"Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn sicrhau ymrwymiad gwleidyddol cryf er mwyn cwblhau'r cynllun a chael trydaneiddio yr holl ffordd at Abertawe.
"Petai hyn yn digwydd yn union o fewn yr amserlen yr ydym am iddo ei wneud ac roeddem wedi ei ragweld, nid ydw i yma i ddweud hynny ond yn amlwg rydym am orffen y cynllun ac ni fydd yn rhy bell allan o'r amserlen wreiddiol."
M4 ger Casnewydd
Wrth siarad ar yr un rhaglen, dywedodd Edwina Hart, Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru mai 'gwrthwynebwyr gwleidyddol yn bod yn obeithiol" oedd yr awgrym y byddai'r y cynllun i adeiladu rhan newydd o'r M4 ger Casnewydd yn cael ei anghofio pan fydd hi'n ymddeol o'r llywodraeth y flwyddyn nesaf.
Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi ymroi yn llwyr i'r prosiect o godi ffordd liniaru traffig yn ardal Casnewydd.
"Rwy'n meddwl fod pobl yn ceisio gwneud drygioni neu greu amheuon lle nad oes yna amheuon.
"Gobeithion di-sail yw'r rhain, dyw'r ffaith fod unigolyn yn gadael ddim yn effeithio ar y cynllun, corff sy'n gweithio ar y cyd yw Llywodraeth."
Fis diwethaf fe ddywedodd CBI Cymru - cymdeithas y cyflogwyr - eu bod am gael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y byddai'r cynllun £1 biliwn yn parhau yn dilyn penderfyniad i Ms Hart beidio ag ymgeisio yn etholiadau'r cynulliad yn 2016.
Mae disgwyl i ymchwiliad cyhoeddus ddechrau yn 2016 i'r bwriad o adeiladu ffordd liniaru, sy'n cynnwys 15 milltir (24 cilomedr) o draffordd newydd, a thraphont dros yr Afon Wysg.
'Hynod frwdfrydig'
Dywedodd Ms Hart, AC Gŵyr, fod Llywodraeth Cymru yn gwneud y peth cywir wrth barhau gyda'r prosiect.
"Mae'n bwysig cydnabod fod llawer o arian wedi ei fuddsoddi eisoes yn y prosiect.
"Mae yna ymroddiad gan Lywodraeth y DU i fenthyg arian i'r prosiect, a byddai hynny'n cael ei golli pe na bai'r prosiect yn parhau."
Ychwanegodd fod nifer o bobl yn hynod frwdfrydig am y cynllun.
Mae'r gwrthbleidiau a nifer o ACau Llafur wedi gwrthwynebu'r cynllun, tra bod rhai sefydliadau wedi codi cwestiynau am y 'llwybr du' sy'n cael ei ffafrio gan y llywodraeth ac effaith y cynllun ar yr amgylchedd.