Gwrthdrawiad lori Gwynedd: Dynes wedi marw
- Cyhoeddwyd

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Nantlle yn Nhalysarn
Mae dynes oedrannus wedi marw ar ôl gwrthdrawiad gyda lori ddadlwytho yng Ngwynedd brynhawn Gwener.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Nantlle yn Nhalysarn, a chafodd yr heddlu eu galw am 16:03.
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion i'r digwyddiad a dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth gysylltu â nhw ar 101.
Fe gafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor mewn hofrennydd.
Dywedodd yr heddlu mai lori ddadlwytho Ford Transit oedd wedi bod yn y gwrthdrawiad.
Does dim mwy o wybodaeth wedi ei ryddhau.