Marwolaeth Talysarn: Apelio am dystion

  • Cyhoeddwyd
Talysarn
Disgrifiad o’r llun,
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Nantlle yn Nhalysarn

Mae'r heddlu'n apelio am wybodaeth ar ôl i ddynes oedrannus farw mewn gwrthdrawiad gyda lori yng Ngwynedd bnawn dydd Gwener.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Nantlle yn Nhalysarn, a chafodd yr heddlu eu galw am 16:03.

Fe ddylai unrhyw un gyda gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru ar 101.

Fe gafodd y ddynes ei chludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor mewn hofrennydd.

Dywedodd yr heddlu mai lori ddadlwytho Ford Transit oedd wedi bod yn y gwrthdrawiad.

Does dim mwy o wybodaeth wedi ei ryddhau.