Rhybudd am beryglon chwarel yng Ngwynedd

  • Cyhoeddwyd
Glyn RhonwyFfynhonnell y llun, Quarry Battery Company
Disgrifiad o’r llun,
People are being urged to report trespassers to police

Mae pobl yn cael eu rhybuddio i gadw draw o chwarel yng Ngwynedd yn ystod y tywydd poeth o achos y peryglon yno.

Mae Cyngor Gwynedd yn pryderu y bydd ymdrechion gan rai yn y gorffenol i ddringo dros ffens i chwarel Glyn Rhonwy ger Llanberis yn cael ei ail-adrodd gan eraill dros yr haf.

Dywed y cyngor fod pyllau dwfn yn yr hen chwarel sy'n cael eu defnyddio ar gyfer nofio yn cynnwys peryglon difrifol all arwain at anaf neu farwolaeth.