Marwolaeth Talysarn: Enwi dynes
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi enwi'r ddynes fu farw mewn gwrthdrawiad gyda lori yng Ngwynedd bnawn dydd Gwener.
Enw'r ddynes oedd Dorothy Jones, 75 oed, o Dalysarn. Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Nantlle yn Nhalysarn, a chafodd yr heddlu eu galw am 16:03.
Yn wreiddiol o ardal Stockport, roedd Mrs Jones wedi gweithio am flynyddoedd yn Ysbyty Stepping Hill cyn i'r teulu symud i Gilgwyn, ac yna fe symudodd hi'n ddiweddarach i Dalysarn.
Wrth roi teyrnged iddi, dywedodd ei merched Tracey Louise a Caroline Denise Jones: "Roedd hi'n fam wych ac yn nain i Ryan a Holly. Rydym wedi ein hysgwyd ar hyn o bryd.
"Petai unrhyw un yn gofyn i ni am ddau air i ddisgrifio mam ein geiriau fyddai 'Enaid Rydd'. Hi oedd y person cleniaf a mwyaf hael gyda chalon o aur.
"Fe fydd yn anodd iawn i ni fel ffrindiau a theulu nawr gan iddi gael ei lladd mor agos i'w chartref."
Fe dreuliodd Mrs Jones flynyddoedd yn gofalu am anifeiliaid amddifad ac roedd hi'n cerdded gyda'i chi ar y pryd pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
Fe ddylai unrhyw un gyda gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru ar 101 gan ddefnyddio'r cyfeirnod S106224.
Dywedodd yr heddlu mai lori ddadlwytho Ford Transit oedd wedi bod yn y gwrthdrawiad.