Cyplysu dyddiau hyfforddi athrawon i rieni arbed arian
- Cyhoeddwyd

Mae ysgol yng Nghasnewydd wedi penderfynnu cynnal dyddiau hyfforddi ei athrawon gefn wrth gefn yn ystod yr un wythnos er mwyn i rieni fanteisio ar brisiau gwyliau rhatach yn ystod y tymor ysgol.
Clywodd rhieni disgyblion Ysgol Gynradd Eveswell y bydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal dros bum niwrnod yn ystod diwedd hanner tymor y Sulgwyn ym mis Mehefin 2016.
Mae ysgolion fel arfer yn gwasgaru'r dyddiau hyfforddi unigol drwy gydol y flwyddyn ysgol.
Dywedodd y pennaeth Catherine Barnett ei bod yn gobeithio y byddai hyn yn atal rhieni rhag mynd a'u plant ar wyliau yn ystod y tymor.
"Fe fydd pum niwrnod o hyfforddiant i staff pan na fydd yr ysgol ar agor i ddisgyblion", meddai.
"Fe gymerwyd y penderfyniad i gymryd y dyddiau hyn fel un wythnos gyflawn gyda'r gobaith y bydd modd archebu gwyliau rhatach ac felly ni fydd gwyliau'n effeithio ar bresenoldeb ar amseroedd eraill o'r flwyddyn."
Daw'r penderfyniad mewn cyfnod ble mae cynghorau'n dirwyo rhieni am gymryd eu plant o'r ysgol heb ganiatad.
Dywedodd un rhiant i ddisgybl yr ysgol, Gemma Thomas: "Petai pob ysgol yn gwneud hyn ond yn dewis wythnos wahanol i ardaloedd cynghorau eraill fe fyddai'n hollol wych i rieni."
Ychwanegodd riant arall, Kirsty Powles: "Roeddwn yn hapus iawn i weld hyn mewn llythyr yr wythnos hon - rwy'n credu ei fod yn wych."